Gwyn Yw’r Eira
08Chw09
Roedd y ffyrdd yn dechrau cael eu clirio yng Nghwm Elan ddoe, felly aethon ni i Bont ar Elan i chwarae yn yr eira, taflu peli eira, codi dyn eira, ac edrych ar y harddwch o’r bryniau gwyn.
Roedd’n ddiddorol gweld y llwybrau’r anifeiliaid. Defaid, yn fwy na dim, wrth gwrs, ond pethau prinnach hefyd. Er enghraifft, dyma lun o lanfa barcud coch neu foda – mae’r arwyddion y plu yn amlwg iawn. O’r lle ‘ma roedd llwybr olion traed i bwll bach. Roedd yr aderyn yn sychedig, dwi’n meddwl.
Filed under: Lluniau, Teulu | Leave a Comment
No Responses Yet to “Gwyn Yw’r Eira”