Archive for the ‘Lluniau’ Category

Oer

28Tach10

Gath y botel o ddŵr ‘ma ei gadael yn y car dros nos. Oooooo, ma’n oer!


Bach o Seiclo

06Tach10

Cadwch yr Eryri. Cadwch y Bannau Brycheiniog. Y mynyddoedd Cambrian, Elenydd, yw fy nefoedd. Dyw safon y lluniau ddim yn dda iawn (ffôn symudol!) ond maen nhw’n dangos prydferthwch yr hydref yng Nghanolbarth Cymru mewn ffordd ddigon da.


Band Llydan

16Hyd10

Band llydan? Dim heddi.


O Diar

03Hyd10

Mongomeryshire County Times, yr wythnos diwetha: Dim mâs o ddeg.


Jysd rhag ofn i chi feddwl bo’ fi’n teithio i waith bob dydd o dan yr haul ar ffyrdd gwag, dyma’r gwir. Sownd tu ôl cerbyd anifeiliaid. Yn y glaw. 😀


Swydd Newydd

23Medi10

Wel, dwi wedi dechrau fy swydd newydd yr wythnos ‘ma. Wi’n gorfod teithio o Landrindod i Lanidloes ac yn ôl pob dydd. Mae lot o bobl sy ddim yn lico’r syniad o ddreifo rhy bell i waith, ond wi wedi joio’r daith hyd yn hyn. O leia wi ddim yn treulio amser mewn tagfeydd traffig […]


Sai’n gwybod lot am yr Hogia’r Wyddfa. Naethon nhw ddod o Eryri. Ro’n nhw’n fawr yn y saithdegau. Maen nhw dal yn perfformio o dro i dro. A dyna’r cwbl. Prynais i albwm yr Hogai o siop elusen yn ddiweddar (yng Nhgeintun, Swydd Henffordd, gyda llaw), a sylwais i rhywbeth am sawl aelod y grŵp. […]


Cymryd y Pis

17Meh09

Llandrindod, ail ar bumtheg o Fehefin, dwy fil a naw, di-blwm: Punt a deg ceiniog y litr. Maen nhw’n cymryd y pis.


Es i i Ŵyl Porthmadog dydd Sadwrn diwetha. Roedd dwy llwyfan yng Nghlwb Pêl Droed Porthmadog, y brif lwyfan mewn pabell fawr ar y cae, ac y llwyfan Ciwdod yn y Clubhouse. Roedd’n brynhawn heulog a thwym, ond daeth hi yn oer cyn gynted â machludodd yr haul. O’n i’n gallu cadw yn gynnes trwy […]


Mae’r tymor gwersylla yn dod. Felly, roedd rhaid i fi brynu rhai o bethau ar y we, sef polion i’r babell a rhai o oleuadau. Dwi’n meddwl bod lot o aer sbâr gyda Towsure, achos gyrron nhw bocs mawr ohono fe ata fi. Am ddim. Diolch iddyn nhw.