Bach o Seiclo
Cadwch yr Eryri. Cadwch y Bannau Brycheiniog. Y mynyddoedd Cambrian, Elenydd, yw fy nefoedd.
Dyw safon y lluniau ddim yn dda iawn (ffôn symudol!) ond maen nhw’n dangos prydferthwch yr hydref yng Nghanolbarth Cymru mewn ffordd ddigon da.
Filed under: Lluniau, Seiclo | 1 Comment
Y Daith i Waith – Y Gwir
Jysd rhag ofn i chi feddwl bo’ fi’n teithio i waith bob dydd o dan yr haul ar ffyrdd gwag, dyma’r gwir.
Sownd tu ôl cerbyd anifeiliaid. Yn y glaw. 😀
Filed under: Cyffredinol, Lluniau | 2 Comments
Swydd Newydd
Wel, dwi wedi dechrau fy swydd newydd yr wythnos ‘ma. Wi’n gorfod teithio o Landrindod i Lanidloes ac yn ôl pob dydd. Mae lot o bobl sy ddim yn lico’r syniad o ddreifo rhy bell i waith, ond wi wedi joio’r daith hyd yn hyn. O leia wi ddim yn treulio amser mewn tagfeydd traffig rhwng Pontypridd a Chaerdydd.
Filed under: Cyffredinol, Lluniau | 5 Comments
Ffa Coffi Starbucks
Mae Starbucks yn actio fel bwli, yn ôl stori ar wefan y BBC. Ydyn nhw yn credu bod eu cwsmeriaid yn ynfydion?
Filed under: Cyffredinol | 1 Comment
Bandit
Oedd y rhifyn Bandit neithiwr (9fed Medi – sbesial Maes B) yr un gwaetha erioed?
Elin Fflur? Bryn Fôn? Dim ond hanner cân o’r set anhygoel Cate Le Bon? Dim Plant Duw o gwbl? A ble oedd Crash.Disco!?
Dwi’n siomedig iawn.
Dwi’n gwbod yr oedd Maes B yn eitha fflat ‘leni, ac efallai doedd safon y sŵn yn ystod setiau rhai o’r bandiau ddim digon da i’r teledu, ond mae rhai o ni sydd gyda diddordeb mewn cerddoriaeth, dim stwff canol y ffordd fel Elin Fflur a Gwibdaith Hen Frân. Mae digon o le ar S4C amdanyn nhw eisoes.
Roedd Huw Evans yn edrych fel yr oedd e’n cymryd y pis mâs y rhaglen, hefyd. Duw a ŵyr beth sy’n mynd i ddigwydd pan ddaw y toriadau.
Filed under: Cerddoriaeth, Cyffredinol | 2 Comments
Dal i Fyny
Mae recordiad gig ola y Promatics ar gael ar wefan C2 BBC Radio Cymru yma. Nath y grŵp benderfynu rhoi’r ffidl yn y to ar ôl Maes B eleni. Mae’n amser i symud ‘mlaen i bethau gwell, gobeithio.
Nath y set gynnwys fersiwn o’r gân Dal i Fyny gan Winabego. O’n i’n meddwl y fi oedd yr unig person yn y byd sy’n cofio Winabego.
Filed under: Cerddoriaeth, Fideo | Leave a Comment
Diweddariad Java
Beth yn y byd?
O’n i’n trio diweddaru Java ar fy mheiriant Vista.
Roedd problem – achos o rhyw fath o cyclic redundancy check doedd y diweddariad ddim yn gallu parhau.
Ocê, nes i feddwl, mae’n well ‘da fi fod yn ddiogel. Ond y ffeil gyda’r problem oedd readme.txt! Beth yw’r bobl Java yn disgwyl? Firws sgript yn y readme?
Filed under: Cyffredinol, Technoleg | Leave a Comment