Archive for the ‘Teulu’ Category

Porth Iago, 12 Awst 2009


Morfa Bychan, p’nawn dydd Sadwrn diwetha. O diar.


Gwyliau

17Gor09

Dwi jysd wedi bwcio wythnos ym Mhen Llŷn ym mis Awst. Yn Uwchmynydd, ar bwys Aberdaron, yw’r wersyllfa. Wi’n rili, rili edrych ‘mlaen at y peth: Trip bach i Ynys Enlli, lot o seiclo, ymlacio ar y traeth ym Mhorth Iago, ac, wrth gwrs, siarad Cymraeg gyda phobl hefo acen a thafodiaith ddoniol. 🙂 Gobeithio […]


Aeth y Ddysgwraig Gloi a fi, gyda ffrind bach hi, i Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd ar ddydd Mawrth. Dyn ni wedi mynd i gefnogi plant yr ysgol ac yr ardal am rhai o flynyddoedd nawr, ac o’n i’n falch iawn eleni gallu defnyddio’r Gymraeg yn unig trwy’r dydd. Fel arfer, roedd y safon mor […]


Bluestone

14Ebr09

Aethon ni i Bluestone, y pentre gwyliau yn Sir Benfro, yn ddiweddar. Roedd yr Wraig ddi-Gymraeg ishe neud rhywbeth arbennig dros y penwythnos ei phenblwydd. Roedd y lle yn anodd iawn i ffeindio. Oherwydd mae’n newydd, does dim arwyddion brown ar y ffyrdd. Dilynais i yr arwyddion i Oakwood a gobeithio. Beth bynnag, cyrhaeddon ni […]


Roedd y ffyrdd yn dechrau cael eu clirio yng Nghwm Elan ddoe, felly aethon ni i Bont ar Elan i chwarae yn yr eira, taflu peli eira, codi dyn eira, ac edrych ar y harddwch o’r bryniau gwyn. Roedd’n ddiddorol gweld y llwybrau’r anifeiliaid. Defaid, yn fwy na dim, wrth gwrs, ond pethau prinnach hefyd. […]


Yr Eira

05Chw09

Dyma ffilm fach amdanon ni’n chwarae yn yr eira nos Fawrth. Mae ‘na riw fach tu ôl y Neuadd y Sir sy’n berffaith am sglefrio i lawr gyda phlant. Llwyni meddal neis o dan y bryn, hefyd! Gyda llaw, oes unrhywun mas yn y byd y we sy’n gwybod be’ yw sledging yn y Gymraeg? […]


Ar ôl y Glaw

08Medi08

Wel, roedd y glaw yn ofnadwy ar ben yr wythnos diwetha, ond yr ochr arall o’r tywydd drwg yw’r harddwch o Gymru wlyb. Aethon ni am dro yng nghymoedd Claerwen ac Elan ar prynhawn Dydd Sadwrn. Roedd’n wlyb, roedd’n wyntog, ond roedd’n ffantastig. Reodd y llwybrau wedi dod nentydd, ac roedd y grisiau wedi dod […]


Aethon ni am dro mewn coedwig ddoe. Dwi’m yn gwybod faint o weithiau dwi ‘di gyrru heibio’r maes parcio bach ar yr A44 rhwng Llanfihangel Nant Melan a Maesyfed, ond dwi erioed wedi aros. Dwi ‘di gwybod erstalwm am y goedwig hyfryd a’r rhaeadr ddramatig mewn tro byr o’r ffordd brysur, ond fel arfer pan […]


Cyrhaeddais i yn ôl o Faes B am tri o’r gloch yn y bore. Syniad drwg, achos roedd rhaid i fi godi yn gynnar er mwyn gyrru i’r fferi yn Plymouth i ddechrau ein gwyliau ni yn Llydaw. Do’n i ddim wedi bod yn yfed, o leia. Mae Llydaw yn wlad hyfryd, gyda traethau… …seiclo […]