Pethau Bychain

03Medi10

Heddiw, dwi’n ailddechrau’r blog hwn fel rhan o’r prosiect Pethau Bychain.

O’n i’n gorfod peidio blogio llynedd, achos o’n i’n canolbwyntio ar bethau arall. Ond nawr, mae’r Dysgwr Araf yn ôl. 🙂


Daily Mail…

01Tach09

…yn cael ei ddarllen gan contiau.

Contiau


Facebook

30Hyd09

Sylw doniol iawn ar Facebook C2 Radio Cymru.

Sylw ar Facebook

Dwi’m yn gwybod pam, ond dwi’n chwerthin pob amser dwi’n gweld y peth. Da iawn Angharad.


Morfablog

09Hyd09

Ces i fy nghrybwyll ym Morfablog heddi. Bobol bach!


Porth Iago, 12 Awst 2009


Gwyneth Glyn a Gareth Bonello ar yr un llwyfan. Waw.


Sorî am y sŵn ofnadw.


Morfa Bychan, p’nawn dydd Sadwrn diwetha. O diar.


Gwyliau

17Gor09

Dwi jysd wedi bwcio wythnos ym Mhen Llŷn ym mis Awst. Yn Uwchmynydd, ar bwys Aberdaron, yw’r wersyllfa. Wi’n rili, rili edrych ‘mlaen at y peth: Trip bach i Ynys Enlli, lot o seiclo, ymlacio ar y traeth ym Mhorth Iago, ac, wrth gwrs, siarad Cymraeg gyda phobl hefo acen a thafodiaith ddoniol. 🙂
Gobeithio bydd y tywydd yn iawn. 😕


Sai’n gwybod lot am yr Hogia’r Wyddfa. Naethon nhw ddod o Eryri. Ro’n nhw’n fawr yn y saithdegau. Maen nhw dal yn perfformio o dro i dro. A dyna’r cwbl.

Prynais i albwm yr Hogai o siop elusen yn ddiweddar (yng Nhgeintun, Swydd Henffordd, gyda llaw), a sylwais i rhywbeth am sawl aelod y grŵp.

Hogia'r Wyddfa

Edrychwch ar y lluniau ‘ma:

Tad y Bois Brigyn?

Tad y bois Brigyn?

Tad Mr Huw?

Tad Mr ‘Mistar’ Huw?

Tad Geth Evs?

Tad Gethin Evs?

Oes unrhywun sy’n gwybod os dwi’n gywir?


Cymryd y Pis

17Meh09

Llandrindod, ail ar bumtheg o Fehefin, dwy fil a naw, di-blwm: Punt a deg ceiniog y litr. Maen nhw’n cymryd y pis.

Cymryd y Pis