Swydd Newydd
23Medi10
Wel, dwi wedi dechrau fy swydd newydd yr wythnos ‘ma. Wi’n gorfod teithio o Landrindod i Lanidloes ac yn ôl pob dydd. Mae lot o bobl sy ddim yn lico’r syniad o ddreifo rhy bell i waith, ond wi wedi joio’r daith hyd yn hyn. O leia wi ddim yn treulio amser mewn tagfeydd traffig rhwng Pontypridd a Chaerdydd.
Filed under: Cyffredinol, Lluniau | 5 Comments
Faint o filltir rhaid i ti yrru, i’r waith, ac yn ol, ‘te? Fi, wi’n dwli ar gyrru ar fy mhen yn hunain os nag yw llawr o draffig, fel dy rai di. Dw i’n meddwl, neu wrando ar gerrdoriaeth, neu wrando ar lyfrau llafar (ond well i fi eu wneud nhw pan dw i’n gwneud teithiau hir iawn iawn).
Pump ar ugain o filltiroedd, yn ôl Mapiau Google. Dwi’n ffili gwrando ar Radio Cymru yn y mynyddoedd achos y signal gwan, felly dwi ‘di bod yn gwrando ar gerddoriaeth – yr Ods yn enwedig yr wythnos diwetha. 🙂
Haia Rob, Lluniau neis. Gobeithio oeddet ti’n “stationary” pan oeddet ti’n cymyd nhw 😉 Dw i’n ‘neud yr A470 weithiau, mynd i cyfarfodau “pob Cymru” yn Llandinam neu Rhaeader neu rhywle fel ‘na. Dw i’n gwybod mae’n ffordd araf, ond mae’n hyfryd iawn, yn enwedig trwy eryri:)
Ha ha, y lluniau’n hilariws boi! Licio’r un o’r lorri a’r un car gwyn na newidiodd oam ryw tair llun…rush hour yn y pentref ynde!
Dwi’n cytuno hefo ti ynde, fysa well gen i yrru milltiroedd ar ffyrdd del, gwag gogledd Cymru na gwario awr yn trio cael o Lerpwl i Cilgwri yn yr ‘awr-brys’…neu eistedd ar ryw tiwb yn mynd o Lundain i’r suburbs…dwi’n lwcus ar y foment achos bo fi’n gweithio yn Caer, ond dwi’n cadw golwg ar swyddi yn Wrecsam a hyd ynoed Bangor!
Beth yw dy swydd? Ydy o werth y gyrru?
Lluniau da iawn, yn enwedig yr un o Lanyre (Llan-hir?)