Gŵyl Porthmadog
Es i i Ŵyl Porthmadog dydd Sadwrn diwetha. Roedd dwy llwyfan yng Nghlwb Pêl Droed Porthmadog, y brif lwyfan mewn pabell fawr ar y cae, ac y llwyfan Ciwdod yn y Clubhouse. Roedd’n brynhawn heulog a thwym, ond daeth hi yn oer cyn gynted â machludodd yr haul. O’n i’n gallu cadw yn gynnes trwy yfed cwrw neis iawn o Fragdy Mŵs Piws.
Mwynheais i y Promatics ar y llwyfan fach, Mr Huw wrth cwrs (mae albwm newydd Mr Huw yn anhygoel) a Sweet Baboo, ond yr uchelpwynt yr ŵyl oedd y perfformiad gan Yucatan.
Mae adrannau strings a brass gyda Yucatan nawr, felly mae’r sŵn yn anferth.
Bennodd y noson gyda phobl yn cadw yn gynnes trwy ddawnsio i’r miwsig Derwyddon Dr. Gonzo. Roedden nhw’n wych, fel arfer, ond dwi’m yn siŵr sut roedden nhw’n gallu chwarae gyda bysedd mor oer.
Cysgais i dros nos yn y camperfan newydd ni. Mwy amdani hi yn nes ymlaen.
Filed under: Cerddoriaeth, Lluniau | Leave a Comment
No Responses Yet to “Gŵyl Porthmadog”