Mynd am Dro yn y Goedwig

26Aws08

Rhaeadr water-break-its-neckAethon ni am dro mewn coedwig ddoe. Dwi’m yn gwybod faint o weithiau dwi ‘di gyrru heibio’r maes parcio bach ar yr A44 rhwng Llanfihangel Nant Melan a Maesyfed, ond dwi erioed wedi aros. Dwi ‘di gwybod erstalwm am y goedwig hyfryd a’r rhaeadr ddramatig mewn tro byr o’r ffordd brysur, ond fel arfer pan dwi’n meddwl “Gŵyl y Banc”, dwi’n meddwl “Aberystwyth” neu “Ynys Las”.

Parcion ni wrth yr A44 (mae’n bosib i barcio mewn maes parcio arall tu mewn i’r goedwig, ond mae hynny yn twyllo, dwi’n credu) a cherdded i’r goedwig. Warren Wood ydy’r enw y goedwig yn Saesneg. Dwi’m yn siwr beth yw’r enw’r lle yn Gymraeg. Mae’n cael ei galw Coed Tyllau Cwningod ar rhai o’r gwybodaeth o gwmpas y safle, ond mae hynny yn swnio rhy makey-uppy i fi. Doedd dim coedwig yn y lle pan roedd y pobl lleol yn siarad Cymraeg, efallai.

Beth bynnag, mae’r goedwig yn brin iawn. Coedwig law yw hi. Wrth gwrs mae’r goedwig yng Nghymru, felly mae llawer o law yna, ond dydy hynny ddim y prif rheswm am y gwlybedd. Na, y prif rheswm yw lluwch gan y rhaeadr (Water-Break-Its-Neck – dim enw Cymraeg eto) fawr. Mae ffynhonnau ar y bryn uwch y goedwig yn anfon dŵr lawr ffrwdd sydd wedi ysgythru ceunant a rhaeadr yn y llechwedd meddal.

Mae popeth yn y coedwig yn wyrdd iawn. Mae mwswgl yn gorchuddio popeth. Mae rhedyn yn tyfu pobman. Mae’n hawdd i ddisgwyl y tylwyth teg i ymddangos o’r gwreiddiau o goed. Lle arbennig iawn yw y goedwig. Ac, wrth gwrs, yng Nghanolbarth Cymru yw’r goedwig, felly ‘sneb yna ond chi a’r tylwyth teg.

Advertisements


No Responses Yet to “Mynd am Dro yn y Goedwig”

  1. Rhowch sylw

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s