Deg Modfedd o Harddwch
02Gor08
Mae’r E.P. newydd Cate LeBon, Edrych yn Llygaid Ceffyl Benthyg, wedi cyrraedd yn y post heddiw. Dwi ‘di bod yn aros am hyn erstalwm: Yn wreiddiol, roedd e’n mynd i gael ei ryddhau gan Recordiau Peski ym mis Mawrth.
Nid C.D. (neu lawrlwythiad, wrth gwrs) yw’r E.P. Feinyl yw e. Deg Modfedd o Feinyl. Deg modfedd o feinyl gwyn. Hyfryd.
Ond be’ am y gerddoriaeth?
Wel, mae’n jyst anhygoel, fel caneuon gwerin seicedelic o’r gofod. Mae Cate LeBon yn canu yr un funud fel angel ac yr nesa fel diafol.
A beth ydy hi’n canu am? Wel, Hwylio Mewn Cyfog yw’r teitl o’r cyntaf o’r chwe chân. Ych-a-fi!
Filed under: Cerddoriaeth, Lluniau | 1 Comment
Dwi’n hoffi Cate LeBon hefyd!