Archive for Gorffennaf, 2008
Gŵyl Gardd Goll
Dros y penwythnos, aethon ni i’r Gŵyl Gardd Goll ym Mharc Glynllifon ger Caernarfon. Roedd’n brynhawn ardderchog mewn parc hyfryd, o dan dywydd heulog, gyda cherddoriaeth Gymraeg a chwmni da (ond, a dweud y gwir, mae’n anodd iawn i ddeall (dallt?) yr acen o Gofi). Oherwydd gaeth y peth ei gyflwyno yn ystod y prynhawn, […]
Filed under: Cerddoriaeth, Lluniau, Teulu | Leave a Comment
Y Sioe Fawr
Ydy hi’n rhy hwyr i flogio am y Sioe Fawr? Pob blwyddyn, mae’r poblogaeth o Faesyfed yn treblu (neu mwy) am pedwar diwrnod ym mis Gorffenaf. I roi e mewn ffordd arall, am sawl diwrnod yng nghanol Haf, ymwelwyr i’r Sioe yw’r mwyafrif y pobl ym Maesyfed. Nawr, chi’n clywed lot o Gymraeg yn y […]
Filed under: Cyffredinol, Dysgu | Leave a Comment
O’r Diwedd…
…mae’r haf wedi dod. Mae’r obelisg wedi ei gwblhau. Mae’r haul yn disgleinio. Mae’r awyr yn las. Mae’r Sioe yn digwydd yn Llanelwedd. Mae’r arogl o wair ar y wynt. Mae’r ffenestri’n agor trwy’r nos. Ac, wrth gwrs, mae’na bobl sy’n dal i gwyno: “Mae’n rhy boeth”, maen nhw’n dweud. Na. Dychi’n rhy oer.
Filed under: Cyffredinol, Lluniau | Leave a Comment
Pobi
Dwi newydd wedi pobi brownîs siocled gyda’r Ddysgwraig Glou. Rhoion ni baced o fenyn, paced o siwgr, pedwar ŵy, a dau far o siocled ynddyn nhw. Peidiwch ag edrych ar y llun am rhy hir: Bydd trawiad ar y galon arnoch chi!
Filed under: Lluniau, Teulu | Leave a Comment
Cerddoriaeth yn y Sioe Fawr
Bydd cerddoriaeth Cymraeg am ddim yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd yr wythnos nesa. I ddathlu’r lawnsiad o’r albym Dan y Cownter 3, bydd canwr neu grwp Cymraeg yn perfformio ar y stond y Bwrdd yr Iaith Gymraeg pob prynhawn am ddau o’r gloch. Yr artistiaid yw: Llun 21: Eitha Tal Ffranco Maw 22: Wrightoid […]
Filed under: Cerddoriaeth | Leave a Comment
Yr Amgueddfa Genedlaethol
Es i, gyda’r Ddysgwraig Glou, i’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ar Ddydd Sadwrn tra cafodd yr Wraig Ddi-Gymraeg ei gwallt yn torri mewn salon posh yn y ddinas. Dyn ni’n rili, rili hoffi’r amgueddfa. Mae’r adeilad yn trawiadol, a mae’r arddangosion yn berffaith i’r cyfnod canolbwynti o blant -gwibdeithiau syml trwy’r hanes a’r ddaearyddiaeth o […]
Filed under: Lluniau, Teulu | Leave a Comment
Cerfiad
Mae’r Cyngor yn adeiladu cerfiad yn y Ridgebourne fel porth i Dde Llandrindod. Ymhen hir a hwyr, bydd e’n obelisg gyda golau oren sy’n disgleinio trwy’r ffenestri tal, cul. Achos y glaw, mae’r dynion sydd wedi bod yn codi’r peth wedi gweithio yn araf iawn. Ar sawl diwrnod, doedd dim cyfle i weithio o gwbl. […]
Filed under: Lluniau | 1 Comment
Nôl ar y Beic
Cwpl wythnos yn ôl, ces i lawdriniaeth fach. Dim ond peth twll-y-clo oedd hi, ond roedd rhaid i mi beido â reidio fy meic am sbel. O’n i’n nôl ar fy meic ddoe. Jyst taith fach am chwarter awr i brofi’r anaf allan, ond roedd’n wych i fod nôl ar y ffordd. Er mwyn dathlu, […]
Filed under: Fideo, Seiclo | Leave a Comment
Windows Vista
Mae’n rybish. Hollol, hollol, sbwriel. Dyna i gyd.
Filed under: Cyffredinol | 2 Comments
Deg Modfedd o Harddwch
Mae’r E.P. newydd Cate LeBon, Edrych yn Llygaid Ceffyl Benthyg, wedi cyrraedd yn y post heddiw. Dwi ‘di bod yn aros am hyn erstalwm: Yn wreiddiol, roedd e’n mynd i gael ei ryddhau gan Recordiau Peski ym mis Mawrth. Nid C.D. (neu lawrlwythiad, wrth gwrs) yw’r E.P. Feinyl yw e. Deg Modfedd o Feinyl. Deg […]
Filed under: Cerddoriaeth, Lluniau | 1 Comment