Dwi ‘di Clywed Sibrydion
30Meh08
Nes i yrru dros y mynyddoedd nos Wener i’r Pafiliwn ym Mhontrhydfendigaid am y Gig Mawr.
Roedd Yr Ods yn dda iawn mewn ffordd quirky pop a mae Radio Lux yn briliant bob amser, ond ro’n i’n edrych ymlaen yn enwedig at Sibrydion achos dwi’n ffan mawr o’u halbymau ond do’n i ddim wedi eu gweld nhw o’r blaen.
Doedden nhw ddim yn siomi.
Nawr, fel arfer basai band fel Sibrydion yn bod rhy gonfensiynol i fi: Pop-roc eitha syth. Dwi’n casáu unawdau y gitâr, er enghraifft.
Ond mae Sibrydion yn wahanol. Maen nhw’n epic (arwraidd – mae’r geiriadur yn dweud wrtha fi), ac yn byw maen nhw yn arwraidd iawn, iawn, iawn.
Cyswllt bonws: Sibrydion ar Bandit
Filed under: Cerddoriaeth | Leave a Comment
No Responses Yet to “Dwi ‘di Clywed Sibrydion”