Arian Parod Yn Unig
23Meh08
Aeth Y Ddysgrwaig Glou a’i mam i Henffordd dros y Sul.
Roedd angen mynd i siopa am bethau sy’n anodd i gael ym Maesyfed. Sef trons. O ddifrif.
Beth bynnag, roedden nhw wedi synnu i ddarganfod bod y peiriant arian yn yr archfarchnad Sainsbury yn gallu cyflwyno ei wasanaethau yn y Gymraeg. Yn Lloegr!
Da iawn Sainsbury. Mae’n neis iawn i gael y dewis.
Nawr ‘te, be’ am y fflipin Abbey National yn y Stryd Middleton yn Llandrindod?
Filed under: Cyffredinol, Teulu | Leave a Comment
No Responses Yet to “Arian Parod Yn Unig”