Sul y Tadau
16Meh08
Mae’n anodd iawn, iawn i ffeindio cardiau Cymraeg ym Maesyfed. Wel, dweud y gwir, mae’n bosib i brynu llawer o gardiau traddodiadol gyda lluniau o flodau, anifeiliaid y fferm a phethau cheesy (cawsog?) fel hynny, ond mae’n amhosib i ffeindio cardiau Cymraeg cyfoes yn Llandrindod, Rhaeadr, Trefyclo ayyb. Roedd siop ddiddorol o’r enw Presant yn Llanfair ym Muallt ar yr ochr arall yr Afon Gwy, ond dydy hi ddim yn werthu cardiau – Cymraeg neu Saesneg – dim mwy.
Ond does dim ots, achos, yr wythnos diwethaf, roedd rhaid i fy merch (Y Ddysgwraig Glou) wneud cerdyn Sul y Tadau yn lle o brynu un. A mae’r cerdyn yn ffantastig! Aur yw’r lliw traddodiadol am air ar gardiau, wrth cwrs, ond beth am ddu am y gweddill y cerdyn? Dyna syniad gwych!
Filed under: Lluniau, Teulu | 1 Comment
Mae y ddysgwraig glou yn clyfar iawn i gwneud hwnna.