Archive for Mehefin, 2008

Nes i yrru dros y mynyddoedd nos Wener i’r Pafiliwn ym Mhontrhydfendigaid am y Gig Mawr. Roedd Yr Ods yn dda iawn mewn ffordd quirky pop a mae Radio Lux yn briliant bob amser, ond ro’n i’n edrych ymlaen yn enwedig at Sibrydion achos dwi’n ffan mawr o’u halbymau ond do’n i ddim wedi eu […]


Eironi

30Meh08

Eironi yw irony yn Saesneg. Roedd rhaid i fi edrych e i fyny ar ôl darllen hon ar yr un diwrnod pan roedd Georgia Ruth Williams o Aberystwyth yn chwarae yng Ngŵyl Glastonbury. Eironi. Cofiwch.


Seiclo

25Meh08

Mae’r Ddysgwraig Glou newydd wedi dysgu i seiclo ar ben ei hun. Doedd hi ddim wedi dysgu o’r blaen achos dyn ni’n byw wrth ffordd brysur, felly doedd dim cyfle. Ond, cwpl wythnos yn ôl, aethon ni i’r parc am fore, ac ar ôl dwy neu tair awr a sawl deigr, roedd hi wedi meistroli […]


Aeth Y Ddysgrwaig Glou a’i mam i Henffordd dros y Sul. Roedd angen mynd i siopa am bethau sy’n anodd i gael ym Maesyfed. Sef trons. O ddifrif. Beth bynnag, roedden nhw wedi synnu i ddarganfod bod y peiriant arian yn yr archfarchnad Sainsbury yn gallu cyflwyno ei wasanaethau yn y Gymraeg. Yn Lloegr! Da […]


Pa Iaith?

21Meh08

Pa iaith ddylwn i ddefnyddio ar y blog ‘ma? Dwi’m yn meddwl am Gymraeg ne Saesneg, ond mathau o Gymraeg. Edrychwch ar y synhwyreb diweddaf, er enghraifft. Ydy “Dwi’m yn” iawn mewn blog? Be’ am “Sai’n“? Be’ am “Be’ am“??? Pa mor ffurfiol ddylai’r iaith o flog bod? Fasai e’n bod ocê taswn i ddechrau […]


Wedi Hedfan

18Meh08

Wel, y gwenoliaid wedi hedfan heddiw. Yn anfoddus, mae’r tywydd wedi troi yn ddiflas hefyd. Felly, maen nhw’n jyst eistedd yn y fynedfa yn meddwl “ydy y byd yn wastad mor gas?”. Fel ‘na mae, fy ffrindiau bach. Ond bydd pethau yn well yn y bore. Fel arfer.


Sul y Tadau

16Meh08

Mae’n anodd iawn, iawn i ffeindio cardiau Cymraeg ym Maesyfed. Wel, dweud y gwir, mae’n bosib i brynu llawer o gardiau traddodiadol gyda lluniau o flodau, anifeiliaid y fferm a phethau cheesy (cawsog?) fel hynny, ond mae’n amhosib i ffeindio cardiau Cymraeg cyfoes yn Llandrindod, Rhaeadr, Trefyclo ayyb. Roedd siop ddiddorol o’r enw Presant yn […]


Gwenoliaid

16Meh08

Pob blwyddyn, dyn ni’n falch i groesawu ymwelwyr o Affrica at ein tŷ. Gwenoliaid ydyn nhw. Eleni, mae’n teulu eithaf cynnar yn y fynedfa. Bydd y cywion yn barod i hedfan cyn bo hir, gobeithio, achos mae’n edrych yn ddan sang yn y nyth! Llynedd, achos y tywydd rwy’n meddwl, o’r cywion yn y teulu […]


Gareth Bonello

13Meh08

Nid grŵp yw The Gentle Good. Dyn o’r enw Gareth Bonello yw e. Roedd The Gentle Good ar Bandit (rhaglen am gerddoriaeth ar S4C) neithiwr. Roedd e’n anhygoel – caneuon gwerin gyfoes gyda llais meddal, dwfn a bysedd yn morthwylio ar y gitâr. Un o’r caneuon oedd Balad y Confict. Yn union fel y caneuon […]


Pabi Melyn

12Meh08

Mae pabi melyn yn tyfu mewn wal wrth ein tŷ. Y pabi melyn yw’r pabi o Gymru, wrth gwrs. Mae’n cael ei alw Welsh Poppy yn Saesneg, ac ar hyn o bryd mae’n y symbol o Blaid Cymru. Yn annhebyg i lawer o babïau arall, dydy’r pabi melyn ddim yn arddangos yn wanllyd. Cryf yw’r […]