Cyrhaeddais i yn ôl o Faes B am tri o’r gloch yn y bore. Syniad drwg, achos roedd rhaid i fi godi yn gynnar er mwyn gyrru i’r fferi yn Plymouth i ddechrau ein gwyliau ni yn Llydaw. Do’n i ddim wedi bod yn yfed, o leia.
Mae Llydaw yn wlad hyfryd, gyda traethau…
…seiclo (ond dim bryniau, dim sbort, dwi’n credu)…
…hen drefi pert…
…ac enwau eitha cynefin:
Mwy o stwff am Lydaw yn nes ymlaen.
*Cân i Gymry, David R. Edwards/Rhiannon Matthews, 1993. Dwi wedi mynd i Lydaw dim ond dwywaith, a dweud y gwir.
Filed under: Lluniau, Teulu | 0 Comments
Maes B
Dwi’n rhy hen, dwi’n gwybod, ond ro’n i rili, rili eishe mynd i o leia un nos o Faes B eleni.
O’r diwedd, dewisais i nos Iau achos roedd’n lawer o fandiau gwych yn chwarae, sef Yr Ods, Eitha Tal Ffranco, Stilletoes, MC Mabon a’r anhygoel Radio Luxembourg.
Ar y ffordd i’r brifddinas, ces i yn y tymer gan gwrando ar y albwm newydd Jen Jeniro, Geleniaeth. Yn uchel. Mae’n yr albwm o’r flwyddyn hyd yma, wi’n credu.
Eleni, gaeth Maes B ei gyflwyno yn yr Undeb Myfyrwyr y Brifysgol. Wrth y drws, roedd rhaid i fi wisgo band braich i brofi mod i’n fwy na un deg saith oed. Fi! Fi sy’n edrych yn lawn fel fydda i ddim yn gweld pedwar deg oed eto! Yn amlwg!
Ro’n i’n hapus i cwrdd â ffrind fi o’r Gogledd, DJ Fuzzyfelt, yna. Dioegelwch mewn rhifau, i’r hen bobl meddwlais i.
Beth bynnag, roedd’n noson wych. Mae’n bosib i wrando ar rhai o’r setiau ar safle y we C2 Radio Cymru yma.
Filed under: Cerddoriaeth | 0 Comments
Y ‘Steddfod Genedlaethol

Aeth y Ddysgwraig Gloi a fi i’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ar y dydd Mercher. Roedd y Wraig Ddi-Gymraeg ddim eishe mynd i’r ‘Steddfod achos mae hi’n swil am ei methu siarad yr iaeth.
Roedd dim angen i’u ots: Ar ol cyrraedd y maes, ro’n i eishe coffi, felly aethon ni at stondin diodydd. “Ga’i goffi du?” gofynais i. “Sorry, I don’t…” atebodd y fenyw y tu ol y cownter.
O wel…
‘Fallai mae’r Gymraeg yng Nghaerdydd yn peth rhy ddosbarth canol am bobl sy’n gweithio yn y diwydrwydd paratoi bwyd.
Filed under: Uncategorized | 0 Comments
Hen Newyddion
Dwi ‘di bod i ffordd am sbel. Fodd bynnag, mae rhai o hen newyddion ‘da fi, felly dwi am bostio sawl cofnod heddiw.
Filed under: Cyffredinol | 0 Comments
Mae’r Swyddfa’r Post Ar Gau
Mae’r Swyddfa’r Post y Ridgebourne wedi bod ar gau am wythnos nawr.
Yn hynny o amser, roedd angen i ddefnyddio hi bron pob dydd, felly dwi wedi bod yn gwneud llawer o gerdded lan i’r dre neu lawr i Hawy.
Mae’n anghyfleus, wrth gwrs, ond dwi’n teimlo’n lwcus bod yr swyddfeydd eraill yn mor agos. Taswn i fyw yn rhywle fel Llanbister, yng nghanol o nunlle, a nawr heb Swyddfa’r Post, ’swn i ddim yn hapus o gwbl. Yn lleoedd fel hwnnw mae nawr gwasanaeth anghysbell.
Ond os chi’n rhedeg busnes, chi angen Swyddfa’r Post gerllaw sy’n ar agor trwy’r amser, nid pan mae’r fan yn cyrraedd.
Filed under: Cyffredinol, Lluniau | 0 Comments
Gŵyl Gardd Goll

Dros y penwythnos, aethon ni i’r Gŵyl Gardd Goll ym Mharc Glynllifon ger Caernarfon.
Roedd’n brynhawn ardderchog mewn parc hyfryd, o dan dywydd heulog, gyda cherddoriaeth Gymraeg a chwmni da (ond, a dweud y gwir, mae’n anodd iawn i ddeall (dallt?) yr acen o Gofi). Oherwydd gaeth y peth ei gyflwyno yn ystod y prynhawn, roedd e’n berffaith i deuluoedd.
Roedd y prif lwyfan mewn amchwaraefa llechi. O’n i’n eitha pryderus am bobl yn cyfuno alcohol a’r ochrau llethrog, ond roedd popeth yn iawn.
Yr uchafpwynt? Y set Derwyddon Dr Gonzo, heb cwestiwn. Ro’n nhw’n wych ac aeth y gynulleidfa yn mental.
Dyma clip bach iawn o’r set. Edrychwch ar y pobl sy’n dawnsio yn yr afon!
Filed under: Cerddoriaeth, Lluniau, Teulu | 0 Comments
Y Sioe Fawr
Ydy hi’n rhy hwyr i flogio am y Sioe Fawr?
Pob blwyddyn, mae’r poblogaeth o Faesyfed yn treblu (neu mwy) am pedwar diwrnod ym mis Gorffenaf. I roi e mewn ffordd arall, am sawl diwrnod yng nghanol Haf, ymwelwyr i’r Sioe yw’r mwyafrif y pobl ym Maesyfed.
Nawr, chi’n clywed lot o Gymraeg yn y Sioe. Efallai, weithia, mae trydydd o’r pobl yn y Sioe yn siarad Cymraeg. Felly, yn ystod y Sioe, ydy chwarter o’r poblogaeth o Faesyfed yn siarad Cymraeg?
Filed under: Cyffredinol, Dysgu | 0 Comments










